gwasanaethau
lanlwytho cv am ddim
Gan ddefnyddio’r technoleg wefan ddiweddaraf, gall ymgeiswyr lanlwytho eu CVs mewn unrhyw fformat yn rhad ac am ddim a chreu proffil chwilio am waith. Bydd y gwasanaeth hwn, ar y cyd â’n gallu chwilio modern, yn sicrhau y cewch eich cyfeirio at y swyddi gweigion perthnasol.
gwasanaethau tanysgrifio i gwsmeriaid
I’r cwsmeriaid hynny ag anghenion recriwtio rheolaidd a thymor hir, mae ein cynllun gwasanaethau tanysgrifio yn galluogi cyrff i chwilio a lawrlwytho CVs ar lefel unigol neu luosog, ar unrhyw adeg. Gyda strategaeth ymgyrchu ag adnoddau cryfion iddi, a chylch o ddarllenwyr sydd wastad yn ehangu, mae nifer y CVs sydd ar gael yn cynyddu yn feunyddiol.
Drwy ein datrysiad tanysgrifio unigryw, mae cwmnïau sydd yn chwilio yn rheolaidd am staff newydd yn gallu cyflawni eu cynllun adnoddau dynyol yn fewnol mewn ffordd effeithlon, ond gyda manteision adnoddau ac arweiniad dragonjobs.
hysbysebion swyddi
I gyrff sydd dim ond yn edrych am gymorth achlysurol gyda recrwitio, gall dragonjobs gynnig y datrysiad delfrydol. Drwy osod hysbyseb ar dragonjobs am ffracsiwn pris y dulliau traddodiadol, gallwch fod yn sicr o dderbyn gwerth eich arian.
Ond mae gwir werth hysbyseb recriwtio yn yr ymateb a gaiff. Felly byddwn yn sicrhau bod ein hymgyrch parhaol i gynyddu niferoedd ein haelodau/darllenwyr yn ddyfal ac yn cael ei dargedu, er mwyn creu’r gynulleidfa fwyaf bosibl i’ch gwariant hysbysebu.
datrysiadau pwrpasol
Yn dragonjobs gallwn ymwneud â’ch ymgyrch recriwtio i’r graddau rheiny, mawr neu fach, sydd orau gennych chi y cwsmer. Mae ein profiad a’n dealltwriaeth o recriwtio, rheoli adnoddau dynol ac o fanteision cysylltiad ar-lein, yn ein galluogi i gynnig gwasanaethau pwrpasol sydd yn unol â’ch anghenion o ddifri. Yn ogystal â gwasanaethau tanysgrifio a hysbysebu, gallwn gynnig sgrinio, nithio a chyfweld ag ymgeiswyr. Gallwn hefyd redeg ymgyrchoedd ar eich rhan gan gynnig adborth ichi ar bob cam o’r ffordd.
postdafliadau
Cynnyrch ategol o werth ychwanegol yw hwn y gellir ei sianelu yn benodol ac yn uniongyrchol at unigolion o fewn sefydliadau a gynhwysir yn ein cronfa ddata. Gall hyn gynnwys ymgeiswyr nad sydd, o bosib, wrthi’n chwilio am safle, ac a allai felly fethu unrhyw gyfleoedd addas a gaiff eu hysbysebu. Mewn partneriaeth â chi byddwn yn rheoli ac yn cyfeirio postdafliad drwy ebost, fydd yn ychwanegu at ac yn cydweithio gydag unrhyw fenter hysbysebu neu chwilio. Caiff y postdafliad ei anfon at unigolion cymwys a chyfrannog yn unig, gan sicrhau y gwasanaeth mwyaf addas i’n cwsmeriaid ac ymgeiswyr ar bob achlysur.

