Dragon Jobs
 
 

dragonexec

ar gyfer swyddi uwch weithredol

dragonexec

Cyflwyniad

Mae Dragon Exec yn adnodd un pwrpas diogel sydd wedi ei gynllunio i ganiatau cwmniau ac unigolion fel ei gilydd i allu cysylltu gyda’r penodiadau a’r talentau gorau o Weithredwyr, Uwch Reolwyr ac Anweithredwyr o fewn rhanbarthau daearyddol Cymru a Gorllewin Lloegr.

Mae llawer o gwmniau, cyflogwyr ac yn wir unigolion wedi cael profiad o’r anhawsterau o recriwtio’r unigolion priodol ar gyfer swyddi Gweithredwyr ac Anweithredwyr, neu wedi ceisio dod o hyd i’r penodiad uwch heriol sy’n anodd ei gael.

Felly, mae dragonexec wedi cael ei sefydlu i ddarparu cronfa o adnoddau sy’n hawdd i’w gyrchu o fewn yr arenâu hyn sy’n anodd eu darganfod. Drwy wneud hyn rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn darparu’r cylch gorau o dalent sydd ar gael. Gan hynny, mae yna nifer o ofynion cyn-gymhwysol; bydd yr rhain yn cynnwys profiad sydd gan yr unigolyn, eu hatebolrwydd a’u cyfrifoldebau.

Rydym yn anelu at ddarparu’r gwasanaeth gorau gallwn i’n cleientiaid a’n hymgeiswyr. Felly mae’n cael ei ragweld, bydd yr adnodd hwn ond ar gael i’r unigolion gorau oll gyda phrofiad, a phrofiad tystiolaethol o fewn eu meysydd arbenigol.

Cymwysterau

I fod yn gymwys i gofrestru o fewn yr adran hon, mae’n rhaid i chi’n ddelfrydol fod gyda’r profiad canlynol:

• Gyda o leiaf saith mlynedd o brofiad ar lefel Bwrdd Uwch neu fel Cyfarwyddwr

• Wedi bod gyda chyfrifoldeb llawn am Elw a Cholled am o leiaf £400,000

• Gyda cofnod o brofiad, a phrofiad tystiolaethol llwyddiannus naill ai gyda datblybu a/neu rheoli busnes sylweddol

Cofrestru fel uwch weithredwr

Os ydych yn bresennol yn chwilio am swydd neu aseiniad dros dro Gweithredol neu Anweithredol, yna cyflwynwch eich manylion drwy gofrestru a lanlwytho eich C.V. at dragonjobs.